Digwyddiadau
Digwyddiad
Lle Llais 2024
Dechreuodd gweithgareddau ymgysylltu awyr agored y Platfform Mapiau Cyhoeddus, Lle Llais, a strwythurau pren yr Ystafell Grwydro Wledig ar eu taith drwy dirweddau trawiadol Ynys Môn. Croesawodd y tîm blant, pobl ifanc a theuluoedd i Barc Gwledig y Morglawdd yng Nghaergybi a Mynydd Parys ger Amlwch ar gyfer teithiau mapio aml-synhwyraidd rhyngweithiol. Wrth i'r daith fynd yn ei blaen, aeth yr Ystafell Grwydro Wledig a beirdd rhyngddisgyblaethol y prosiect i Oriel Môn yn Llangefni, gan arwain at ddigwyddiad pum niwrnod yng Ngwarchodfa Natur a Choedwig Niwbwrch ym mis Medi.